Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

147Adolygiadau o orchymyn interim: penderfyniadau posiblLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Ar ôl i banel gwblhau adolygiad o orchymyn interim, caiff y panel—

(a)dirymu’r gorchymyn interim;

(b)yn achos gorchymyn cofrestru amodol interim, dirymu neu amrywio unrhyw amod;

(c)rhoi gorchymyn cofrestru amodol interim yn lle gorchymyn atal dros dro interim;

(d)rhoi gorchymyn atal dros dro interim yn lle gorchymyn cofrestru amodol interim;

(e)peidio â gwneud unrhyw newidiadau i’r gorchymyn interim.

(2)Ni chaiff panel wneud penderfyniad a bennir yn is-adran (1)(b), (c), (d) neu (e) ond os yw’r panel wedi ei fodloni bod y penderfyniad—

(a)yn angenrheidiol ar gyfer amddiffyn y cyhoedd,

(b)fel arall er budd y cyhoedd, neu

(c)er budd y person cofrestredig.

(3)Mae gorchymyn amnewidiol a wneir o dan is-adran (1)(c) neu (d) yn cael effaith am weddill y cyfnod yr oedd y gorchymyn y mae’n cymryd ei le yn cael effaith ar ei gyfer (oni bai ei fod yn cael ei estyn o dan adran 148).

(4)Yn yr adran hon—

(a)mae cyfeiriad at orchymyn interim yn cynnwys cyfeiriad at—

(i)gorchymyn interim fel y’i hestynnir neu fel y’i hestynnir ymhellach gan y tribiwnlys;

(ii)gorchymyn interim fel y’i hamrywir o dan is-adran (1)(b);

(iii)gorchymyn cofrestru amodol interim amnewidiol neu orchymyn atal dros dro interim amnewidiol a wneir o dan is-adran (1)(c) neu (d);

(b)mae cyfeiriad at orchymyn cofrestru amodol interim neu orchymyn atal dros dro interim yn cynnwys cyfeiriad at—

(i)gorchymyn interim o’r math hwnnw fel y’i hestynnir neu fel y’i hestynnir ymhellach gan y tribiwnlys;

(ii)yn achos gorchymyn cofrestru amodol interim, gorchymyn interim fel y’i hamrywir o dan is-adran (1)(b);

(iii)gorchymyn amnewidiol o’r math hwnnw a wneir o dan is-adran (1)(c) neu (d).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 147 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 147 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)