RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER
PENNOD 4GORCHMYNION INTERIM AC ADOLYGU GORCHMYNION INTERIM
I1I2147Adolygiadau o orchymyn interim: penderfyniadau posibl
1
Ar ôl i banel gwblhau adolygiad o orchymyn interim, caiff y panel—
a
dirymu’r gorchymyn interim;
b
yn achos gorchymyn cofrestru amodol interim, dirymu neu amrywio unrhyw amod;
c
rhoi gorchymyn cofrestru amodol interim yn lle gorchymyn atal dros dro interim;
d
rhoi gorchymyn atal dros dro interim yn lle gorchymyn cofrestru amodol interim;
e
peidio â gwneud unrhyw newidiadau i’r gorchymyn interim.
2
Ni chaiff panel wneud penderfyniad a bennir yn is-adran (1)(b), (c), (d) neu (e) ond os yw’r panel wedi ei fodloni bod y penderfyniad—
a
yn angenrheidiol ar gyfer amddiffyn y cyhoedd,
b
fel arall er budd y cyhoedd, neu
c
er budd y person cofrestredig.
3
Mae gorchymyn amnewidiol a wneir o dan is-adran (1)(c) neu (d) yn cael effaith am weddill y cyfnod yr oedd y gorchymyn y mae’n cymryd ei le yn cael effaith ar ei gyfer (oni bai ei fod yn cael ei estyn o dan adran 148).
4
Yn yr adran hon—
a
mae cyfeiriad at orchymyn interim yn cynnwys cyfeiriad at—
i
gorchymyn interim fel y’i hestynnir neu fel y’i hestynnir ymhellach gan y tribiwnlys;
ii
gorchymyn interim fel y’i hamrywir o dan is-adran (1)(b);
iii
gorchymyn cofrestru amodol interim amnewidiol neu orchymyn atal dros dro interim amnewidiol a wneir o dan is-adran (1)(c) neu (d);
b
mae cyfeiriad at orchymyn cofrestru amodol interim neu orchymyn atal dros dro interim yn cynnwys cyfeiriad at—
i
gorchymyn interim o’r math hwnnw fel y’i hestynnir neu fel y’i hestynnir ymhellach gan y tribiwnlys;
ii
yn achos gorchymyn cofrestru amodol interim, gorchymyn interim fel y’i hamrywir o dan is-adran (1)(b);
iii
gorchymyn amnewidiol o’r math hwnnw a wneir o dan is-adran (1)(c) neu (d).