RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER

PENNOD 4GORCHMYNION INTERIM AC ADOLYGU GORCHMYNION INTERIM

146Adolygiadau o orchmynion interim: amseriad

(1)

Rhaid i banel adolygu’n gyntaf orchymyn interim a wneir o dan adran 144 o fewn chwe mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gwnaed y gorchymyn.

(2)

Pan fo gorchymyn interim a wneir o dan adran 144 wedi ei amrywio neu ei amnewid gan y tribiwnlys ar apêl o dan adran 145, mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at y dyddiad y gwnaed y gorchymyn i’w ddarllen fel cyfeiriad at ddyddiad penderfyniad y tribiwnlys.

(3)

Mae is-adran (4) yn nodi amseriad yr adolygiad cyntaf o orchymyn interim ar ôl i’r tribiwnlys ei estyn neu ei estyn ymhellach (gweler adran 148), ac ystyr “penderfyniad y tribiwnlys” yw’r penderfyniad i estyn y gorchymyn neu i estyn y gorchymyn ymhellach (yn ôl y digwydd).

(4)

Rhaid i banel adolygu’r gorchymyn interim—

(a)

os nad oedd unrhyw adolygiad o’r gorchymyn wedi digwydd cyn penderfyniad y tribiwnlys, o fewn chwe mis sy’n dechrau â dyddiad penderfyniad y tribiwnlys, neu

(b)

os oedd adolygiad o’r gorchymyn wedi digwydd cyn penderfyniad y tribiwnlys, o fewn tri mis sy’n dechrau â’r dyddiad hwnnw.

(5)

Mae is-adran (6) yn nodi amseriad yr adolygiad cyntaf o orchymyn cofrestru amodol interim amnewidiol neu orchymyn atal dros dro interim amnewidiol yn sgil adolygiad (“y gorchymyn amnewidiol”) (gweler adran 147(1)(c) a (d)).

(6)

Rhaid i banel adolygu’r gorchymyn amnewidiol—

(a)

os nad oedd unrhyw adolygiad o’r gorchymyn sydd wedi ei amnewid wedi digwydd cyn yr adolygiad a arweiniodd at wneud y gorchymyn amnewidiol, o fewn chwe mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gwnaed y gorchymyn amnewidiol, neu

(b)

os oedd adolygiad o’r gorchymyn sydd wedi ei amnewid wedi digwydd cyn yr adolygiad a arweiniodd at wneud y gorchymyn amnewidiol, o fewn tri mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gwnaed y gorchymyn amnewidiol.

(7)

Ar ôl yr adolygiad cyntaf o orchymyn interim o dan is-adran (1), (4) neu (6), rhaid i banel adolygu’r gorchymyn (am gyhyd ag y mae mewn grym)—

(a)

o fewn chwe mis sy’n dechrau â dyddiad penderfyniad yr adolygiad diweddaraf, neu

(b)

os yw’r person cofrestredig yn gofyn am adolygiad cynharach ar ôl diwedd y cyfnod o dri mis sy’n dechrau â’r dyddiad hwnnw, cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

(8)

Caiff panel adolygu gorchymyn interim ar unrhyw adeg os daw tystiolaeth newydd ar gael sy’n berthnasol i’r achos.

(9)

Mewn is-adrannau (7) ac (8), mae cyfeiriad at orchymyn interim yn cynnwys cyfeiriad at⁠—

(a)

gorchymyn interim fel y’i hestynnir neu fel y’i hestynnir ymhellach gan y tribiwnlys,

(b)

gorchymyn interim fel y’i hamrywir yn sgil adolygiad (gweler adran 147(1)(b)), ac

(c)

gorchymyn cofrestru amodol interim amnewidiol neu orchymyn atal dros dro interim amnewidiol a wneir yn sgil adolygiad.