RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER

PENNOD 4GORCHMYNION INTERIM AC ADOLYGU GORCHMYNION INTERIM

144Gorchmynion interim

(1)

Caiff panel mewn achos gorchymyn interim wneud gorchymyn interim mewn perthynas â pherson cofrestredig.

(2)

Caiff panel gorchmynion interim wneud gorchymyn interim pa un a yw’r mater wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer ai peidio.

(3)

Pan fo mater wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer, rhaid i unrhyw orchymyn interim gael ei wneud cyn i’r panel addasrwydd i ymarfer waredu’r mater yn unol ag unrhyw un neu ragor o adrannau 135 i 138.

(4)

Y ddau fath o orchymyn interim yw—

(a)

gorchymyn atal dros dro interim, sef gorchymyn sy’n atal cofrestriad y person cofrestredig dros dro;

(b)

gorchymyn cofrestru amodol interim, sef gorchymyn sy’n gosod amodau ar gofrestriad y person cofrestredig.

(5)

Ni chaiff panel wneud gorchymyn interim ond os yw wedi ei fodloni bod y gorchymyn—

(a)

yn angenrheidiol ar gyfer amddiffyn y cyhoedd,

(b)

fel arall er budd y cyhoedd, neu

(c)

er budd y person cofrestredig.

(6)

O ran gorchymyn interim—

(a)

mae’n cymryd effaith ar unwaith, a

(b)

ni chaniateir iddo gael effaith am gyfnod sy’n hwy na 18 mis (oni bai ei fod yn cael ei estyn; gweler adran 148 (estyn gorchymyn interim gan y tribiwnlys)).

(7)

Pan fo gorchymyn interim yn cael ei wneud mewn cysylltiad â pherson cofrestredig, rhaid i GCC roi hysbysiad i’r person—

(a)

o’r penderfyniad,

(b)

o’r rhesymau dros y penderfyniad, ac

(c)

o’r hawl i apelio o dan adran 145 yn erbyn y penderfyniad.