RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER
PENNOD 4GORCHMYNION INTERIM AC ADOLYGU GORCHMYNION INTERIM
143Cwmpas Pennod 4 a’i dehongli
(1)
Mae’r Bennod hon yn gymwys—
(a)
pan fo mater wedi ei atgyfeirio i banel gorchmynion interim, a
(b)
pan fo mater wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer, i’r achos gerbron y panel addasrwydd i ymarfer, neu’r rhan honno o’r achos hwnnw, pan fo’r panel addasrwydd i ymarfer yn ystyried—
(i)
pa un ai i wneud gorchymyn interim o dan adran 144, neu
(ii)
adolygu gorchymyn interim o dan adran 146.
(2)
Yn y Bennod hon—
ystyr “achos gorchymyn interim” (“interim order proceedings”) yw achos y mae’r Bennod hon yn gymwys mewn cysylltiad ag ef, ac
ystyr “panel” (“panel”) yw’r panel gorchmynion interim neu’r panel addasrwydd i ymarfer y dygir yr achos ger ei fron.
(3)
Yn y Bennod hon, mae cyfeiriad at berson cofrestredig yn gyfeiriad at y person cofrestredig y mae’r atgyfeiriad i’r panel wedi ei wneud mewn cysylltiad ag ef.