142Rheoliadau ynghylch gwarediadau gan baneli addasrwydd i ymarferLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio adrannau 135 i 138 i ddiwygio’r ffyrdd y caiff panel addasrwydd i ymarfer waredu mater addasrwydd i ymarfer.
(2)Caiff y rheoliadau, yn benodol—
(a)ychwanegu pŵer gwaredu newydd at y pwerau a grybwyllir yn yr adrannau hynny, a gwneud darpariaeth atodol mewn cysylltiad â’r pŵer hwnnw;
(b)diwygio neu ddiddymu pŵer gwaredu a grybwyllir yn yr adrannau hynny;
(c)diwygio neu ddiddymu darpariaethau yn yr adrannau hynny sy’n gwneud darpariaeth atodol mewn cysylltiad â pŵer gwaredu a grybwyllir yn yr adrannau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 142 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 142 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)