RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER
PENNOD 3GWAREDU ACHOSION ADDASRWYDD I YMARFER
I1142Rheoliadau ynghylch gwarediadau gan baneli addasrwydd i ymarfer
1
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio adrannau 135 i 138 i ddiwygio’r ffyrdd y caiff panel addasrwydd i ymarfer waredu mater addasrwydd i ymarfer.
2
Caiff y rheoliadau, yn benodol—
a
ychwanegu pŵer gwaredu newydd at y pwerau a grybwyllir yn yr adrannau hynny, a gwneud darpariaeth atodol mewn cysylltiad â’r pŵer hwnnw;
b
diwygio neu ddiddymu pŵer gwaredu a grybwyllir yn yr adrannau hynny;
c
diwygio neu ddiddymu darpariaethau yn yr adrannau hynny sy’n gwneud darpariaeth atodol mewn cysylltiad â pŵer gwaredu a grybwyllir yn yr adrannau hynny.