141Penderfyniadau addasrwydd i ymarfer: hysbysu a chymryd effaithLL+C
(1)Pan fo panel addasrwydd i ymarfer yn gwaredu achos mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir yn adrannau 135 i 138, rhaid i GCC roi hysbysiad i’r person cofrestredig o’r penderfyniad o ran gwaredu’r achos.
(2)Mewn unrhyw achos pan fo’r gwarediad yn dilyn canfyddiad o ran amhariad ar addasrwydd i ymarfer, rhaid i’r hysbysiad i’r person cofrestredig gynnwys—
(a)datganiad o ffeithiau a ganfyddir gan y panel, a
(b)canfyddiad y panel o ran amhariad ar addasrwydd i ymarfer.
(3)Mae penderfyniad i waredu achos mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir yn adran 135, 136 neu 137 yn cymryd effaith ar unwaith.
(4)Pan fo panel addasrwydd i ymarfer yn gwaredu achos mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir yn adran 138(5) i (9), rhaid i GCC hefyd roi hysbysiad i’r person cofrestredig o’r hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad o dan adran 158.
(5)Nid yw penderfyniad i waredu achos mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir yn adran 138(5) i (9) yn cymryd effaith—
(a)tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod yr hysbyswyd y person cofrestredig am y penderfyniad, neu
(b)os gwneir apêl o fewn y cyfnod hwnnw, hyd nes bod yr apêl yn cael ei thynnu’n ôl, ei therfynu neu ei gwrthod.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 141 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 141 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)