RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER

PENNOD 3GWAREDU ACHOSION ADDASRWYDD I YMARFER

141Penderfyniadau addasrwydd i ymarfer: hysbysu a chymryd effaith

(1)

Pan fo panel addasrwydd i ymarfer yn gwaredu achos mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir yn adrannau 135 i 138, rhaid i GCC roi hysbysiad i’r person cofrestredig o’r penderfyniad o ran gwaredu’r achos.

(2)

Mewn unrhyw achos pan fo’r gwarediad yn dilyn canfyddiad o ran amhariad ar addasrwydd i ymarfer, rhaid i’r hysbysiad i’r person cofrestredig gynnwys—

(a)

datganiad o ffeithiau a ganfyddir gan y panel, a

(b)

canfyddiad y panel o ran amhariad ar addasrwydd i ymarfer.

(3)

Mae penderfyniad i waredu achos mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir yn adran 135, 136 neu 137 yn cymryd effaith ar unwaith.

(4)

Pan fo panel addasrwydd i ymarfer yn gwaredu achos mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir yn adran 138(5) i (9), rhaid i GCC hefyd roi hysbysiad i’r person cofrestredig o’r hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad o dan adran 158.

(5)

Nid yw penderfyniad i waredu achos mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir yn adran 138(5) i (9) yn cymryd effaith—

(a)

tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod yr hysbyswyd y person cofrestredig am y penderfyniad, neu

(b)

os gwneir apêl o fewn y cyfnod hwnnw, hyd nes bod yr apêl yn cael ei thynnu’n ôl, ei therfynu neu ei gwrthod.