Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

140Gorchmynion effaith ar unwaith ar gyfer cofrestru amodol neu atal dros droLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer wedi gwneud gorchymyn cofrestru amodol, gorchymyn atal dros dro neu orchymyn dileu mewn cysylltiad â pherson cofrestredig o dan adran 138(7), (8) neu (9) (“y penderfyniad”).

(2)Caiff y panel addasrwydd i ymarfer—

(a)yn achos gorchymyn cofrestru amodol, gwneud gorchymyn y dylai cofrestriad y person cofrestredig yn y gofrestr fod yn ddarostyngedig i’r amodau gydag effaith ar unwaith, neu

(b)yn achos gorchymyn atal dros dro neu orchymyn dileu, gwneud gorchymyn y dylai cofrestriad y person cofrestredig yn y gofrestr gael ei atal dros dro gydag effaith ar unwaith.

(3)Ni chaiff y panel wneud gorchymyn o dan is-adran (2) (“gorchymyn effaith ar unwaith”) ond os yw wedi ei fodloni bod y gorchymyn—

(a)yn angenrheidiol ar gyfer amddiffyn y cyhoedd,

(b)fel arall er budd y cyhoedd, neu

(c)er budd y person cofrestredig.

(4)Rhaid i GCC roi hysbysiad i’r person cofrestredig bod gorchymyn effaith ar unwaith wedi ei wneud.

(5)Mae gorchymyn effaith ar unwaith yn cael effaith o’r dyddiad yr hysbyswyd y person cofrestredig amdano—

(a)tan y dyddiad y mae’r penderfyniad yn cymryd effaith yn unol ag adran 141(5), neu

(b)hyd nes bod apêl yn erbyn y penderfyniad yn cael ei chadarnhau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 140 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 140 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)