RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER

PENNOD 3GWAREDU ACHOSION ADDASRWYDD I YMARFER

140Gorchmynion effaith ar unwaith ar gyfer cofrestru amodol neu atal dros dro

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer wedi gwneud gorchymyn cofrestru amodol, gorchymyn atal dros dro neu orchymyn dileu mewn cysylltiad â pherson cofrestredig o dan adran 138(7), (8) neu (9) (“y penderfyniad”).

(2)

Caiff y panel addasrwydd i ymarfer—

(a)

yn achos gorchymyn cofrestru amodol, gwneud gorchymyn y dylai cofrestriad y person cofrestredig yn y gofrestr fod yn ddarostyngedig i’r amodau gydag effaith ar unwaith, neu

(b)

yn achos gorchymyn atal dros dro neu orchymyn dileu, gwneud gorchymyn y dylai cofrestriad y person cofrestredig yn y gofrestr gael ei atal dros dro gydag effaith ar unwaith.

(3)

Ni chaiff y panel wneud gorchymyn o dan is-adran (2) (“gorchymyn effaith ar unwaith”) ond os yw wedi ei fodloni bod y gorchymyn—

(a)

yn angenrheidiol ar gyfer amddiffyn y cyhoedd,

(b)

fel arall er budd y cyhoedd, neu

(c)

er budd y person cofrestredig.

(4)

Rhaid i GCC roi hysbysiad i’r person cofrestredig bod gorchymyn effaith ar unwaith wedi ei wneud.

(5)

Mae gorchymyn effaith ar unwaith yn cael effaith o’r dyddiad yr hysbyswyd y person cofrestredig amdano—

(a)

tan y dyddiad y mae’r penderfyniad yn cymryd effaith yn unol ag adran 141(5), neu

(b)

hyd nes bod apêl yn erbyn y penderfyniad yn cael ei chadarnhau.