RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 2COFRESTRU ETC. DARPARWYR GWASANAETHAU

Ymgeisio, amrywio a chanslo cofrestriad

14Cais i ganslo cofrestriad fel darparwr gwasanaeth

(1)

Os yw darparwr gwasanaeth yn gwneud cais i Weinidogion Cymru i ganslo ei gofrestriad, rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu’r cais oni bai eu bod wedi cymryd camau gyda golwg ar ganslo’r cofrestriad o dan adran 15 neu 23.

(2)

Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ynghylch caniatáu cais i ganslo o dan yr adran hon i’r darparwr gwasanaeth.

(3)

Mae canslo o dan yr adran hon yn cymryd effaith—

(a)

ar y diwrnod sydd 3 mis ar ôl y diwrnod y mae’r darparwr gwasanaeth yn cael yr hysbysiad, neu

(b)

ar unrhyw ddiwrnod cynharach a bennir gan Weinidogion Cymru yn yr hysbysiad.