RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER
PENNOD 3GWAREDU ACHOSION ADDASRWYDD I YMARFER
139Gwarediadau: darpariaeth bellach ynghylch gorchmynion cofrestru amodol a gorchmynion atal dros dro
(1)
Rhaid i orchymyn cofrestru amodol bennu—
(a)
yr amodau y mae rhaid i’r person y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef gydymffurfio â hwy, a
(b)
y cyfnod y mae’r gorchymyn i gael effaith ar ei gyfer, na chaniateir iddo fod yn hwy na 3 blynedd; ond gweler adran 153 ynglŷn ag estyniadau o’r cyfnod hwnnw yn sgil adolygiad.
(2)
Caiff gorchymyn cofrestru amodol bennu—
(a)
bod rhaid adolygu’r gorchymyn yn unol â’r trefniadau a bennir yn y gorchymyn;
(b)
amodau gwahanol sy’n cael effaith ar gyfer cyfnodau gwahanol; ond mae hyn yn ddarostyngedig i’r terfyn a grybwyllir yn is-adran (1)(b).
(3)
Rhaid i orchymyn atal dros dro bennu’r cyfnod y mae’r gorchymyn i gael effaith ar ei gyfer, na chaniateir iddo fod yn hwy na blwyddyn; ond gweler adran 154 ynglŷn ag estyniadau o’r cyfnod hwnnw yn sgil adolygiad.
(4)
Caiff gorchymyn atal dros dro bennu bod rhaid adolygu’r gorchymyn yn unol â’r trefniadau a bennir yn y gorchymyn.