RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER
PENNOD 3GWAREDU ACHOSION ADDASRWYDD I YMARFER
I1I2137Gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarfer: canfyddiad o ddim amhariad
1
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer wedi dyfarnu nad oes amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer.
2
Caiff y panel benderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn cysylltiad â’r person hwnnw.
3
Neu, caiff y panel wneud y naill neu’r llall neu’r ddau o’r pethau a ganlyn—
a
gwaredu’r mater yn y ffordd a bennir yn is-adran (4);
b
gwaredu’r mater yn y ffordd a bennir yn is-adran (5).
4
Caiff y panel roi cyngor ynghylch unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’r honiad o dan adran 118(1)(a) neu’r wybodaeth a arweiniodd at yr achos o dan adran 118(1)(b) (yn ôl y digwydd)—
a
i’r person cofrestredig, a
b
i unrhyw berson arall sy’n ymwneud â’r achos.
5
Caiff y panel roi rhybudd i’r person cofrestredig mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol.
6
Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer rhoi rhybudd o dan yr adran hon.
7
Caiff rheolau o dan is-adran (6), yn benodol, wneud darpariaeth—
a
sy’n ei gwneud yn ofynnol rhoi hysbysiad o rybudd arfaethedig i’r person cofrestredig, a
b
sy’n caniatáu i’r person cofrestredig gyflwyno sylwadau mewn cysylltiad â’r rhybudd arfaethedig.
8
Caiff rheolau o dan is-adran (6) hefyd gynnwys darpariaeth mewn cysylltiad â rhybudd a roddir o dan adran 138(6) neu yn sgil adolygiad o dan adran 152(3)(b)(ii), 153(3)(b)(ii), 154(3)(b)(ii) neu 155(6)(b)(ii).