Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

137Gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarfer: canfyddiad o ddim amhariadLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer wedi dyfarnu nad oes amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer.

(2)Caiff y panel benderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn cysylltiad â’r person hwnnw.

(3)Neu, caiff y panel wneud y naill neu’r llall neu’r ddau o’r pethau a ganlyn—

(a)gwaredu’r mater yn y ffordd a bennir yn is-adran (4);

(b)gwaredu’r mater yn y ffordd a bennir yn is-adran (5).

(4)Caiff y panel roi cyngor ynghylch unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’r honiad o dan adran 118(1)(a) neu’r wybodaeth a arweiniodd at yr achos o dan adran 118(1)(b) (yn ôl y digwydd)—

(a)i’r person cofrestredig, a

(b)i unrhyw berson arall sy’n ymwneud â’r achos.

(5)Caiff y panel roi rhybudd i’r person cofrestredig mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol.

(6)Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer rhoi rhybudd o dan yr adran hon.

(7)Caiff rheolau o dan is-adran (6), yn benodol, wneud darpariaeth—

(a)sy’n ei gwneud yn ofynnol rhoi hysbysiad o rybudd arfaethedig i’r person cofrestredig, a

(b)sy’n caniatáu i’r person cofrestredig gyflwyno sylwadau mewn cysylltiad â’r rhybudd arfaethedig.

(8)Caiff rheolau o dan is-adran (6) hefyd gynnwys darpariaeth mewn cysylltiad â rhybudd a roddir o dan adran 138(6) neu yn sgil adolygiad o dan adran 152(3)(b)(ii), 153(3)(b)(ii), 154(3)(b)(ii) neu 155(6)(b)(ii).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 137 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 137 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)