xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CGWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER

PENNOD 3LL+CGWAREDU ACHOSION ADDASRWYDD I YMARFER

136Gwaredu cydsyniol arall gan banel addasrwydd i ymarfer: ymgymeriadauLL+C

(1)Caiff panel addasrwydd i ymarfer gytuno ar ymgymeriadau â’r person cofrestredig os yw’r person yn cyfaddef bod amhariad ar ei addasrwydd i ymarfer.

(2)Rhaid i GCC ddatgelu manylion yr ymgymeriadau i unrhyw berson—

(a)y cyflogir y person cofrestredig fel gweithiwr gofal cymdeithasol ganddo, hyd y gŵyr GCC;

(b)sydd, hyd y gŵyr GCC, â threfniant â’r person cofrestredig i’r person cofrestredig ddarparu gwasanaethau i drydydd parti yn rhinwedd ei swydd fel gweithiwr gofal cymdeithasol;

(c)y mae’r person cofrestredig, hyd y gŵyr GCC, yn ceisio cyflogaeth o’r fath neu drefniant o’r fath ganddo;

(d)a ragnodir.

(3)Ond ni chaiff GCC ddatgelu i unrhyw berson fanylion unrhyw ymgymeriad nad yw ond yn ymwneud ag iechyd corfforol neu iechyd meddwl y person cofrestredig.

(4)Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch ymgymeriadau y cytunir arnynt â phanel addasrwydd i ymarfer o dan yr adran hon; a chaiff y rheolau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch y materion a bennir yn adran 129(2) (y weithdrefn sydd i’w dilyn ar gyfer cytuno ar ymgymeriadau etc.).

(5)Caiff rheolau o dan is-adran (4) gynnwys darpariaeth mewn cysylltiad ag ymgymeriadau y cytunir arnynt, a gadarnheir neu a amrywir yn sgil adolygiad o dan adran 138(4), 152(5) neu (6), 153(4), 154(4) neu 155(7).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 136 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 136 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)