RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER
PENNOD 3GWAREDU ACHOSION ADDASRWYDD I YMARFER
136Gwaredu cydsyniol arall gan banel addasrwydd i ymarfer: ymgymeriadau
(1)
Caiff panel addasrwydd i ymarfer gytuno ar ymgymeriadau â’r person cofrestredig os yw’r person yn cyfaddef bod amhariad ar ei addasrwydd i ymarfer.
(2)
Rhaid i GCC ddatgelu manylion yr ymgymeriadau i unrhyw berson—
(a)
y cyflogir y person cofrestredig fel gweithiwr gofal cymdeithasol ganddo, hyd y gŵyr GCC;
(b)
sydd, hyd y gŵyr GCC, â threfniant â’r person cofrestredig i’r person cofrestredig ddarparu gwasanaethau i drydydd parti yn rhinwedd ei swydd fel gweithiwr gofal cymdeithasol;
(c)
y mae’r person cofrestredig, hyd y gŵyr GCC, yn ceisio cyflogaeth o’r fath neu drefniant o’r fath ganddo;
(d)
a ragnodir.
(3)
Ond ni chaiff GCC ddatgelu i unrhyw berson fanylion unrhyw ymgymeriad nad yw ond yn ymwneud ag iechyd corfforol neu iechyd meddwl y person cofrestredig.
(4)
Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch ymgymeriadau y cytunir arnynt â phanel addasrwydd i ymarfer o dan yr adran hon; a chaiff y rheolau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch y materion a bennir yn adran 129(2) (y weithdrefn sydd i’w dilyn ar gyfer cytuno ar ymgymeriadau etc.).
(5)
Caiff rheolau o dan is-adran (4) gynnwys darpariaeth mewn cysylltiad ag ymgymeriadau y cytunir arnynt, a gadarnheir neu a amrywir yn sgil adolygiad o dan adran 138(4), 152(5) neu (6), 153(4), 154(4) neu 155(7).