xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys—
(a)pan fo person cofrestredig wedi gwneud cais o dan adran 92 i’r cofnod sy’n ymwneud â’r person hwnnw gael ei ddileu o’r gofrestr drwy gytundeb, a
(b)pan fo’r cais hwnnw wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer yn rhinwedd rheolau a wneir o dan adran 92(3).
(2)Ni chaiff y panel addasrwydd i ymarfer wneud gorchymyn i’r cofnod sy’n ymwneud â’r person cofrestredig gael ei ddileu o’r gofrestr drwy gytundeb ond os yw’r person wedi cytuno ar ddatganiad o ffeithiau sy’n ymwneud â’r mater y gwnaed yr atgyfeiriad a grybwyllir yn is-adran (1) mewn cysylltiad ag ef.
(3)Os gwneir gorchymyn ar gyfer dileu drwy gytundeb, caiff GCC—
(a)cyhoeddi’r datganiad o ffeithiau y cytunir arnynt yn y modd sy’n briodol ym marn GCC, a
(b)datgelu’r datganiad i unrhyw berson os yw GCC yn meddwl ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 135 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 135 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)