RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER

PENNOD 3GWAREDU ACHOSION ADDASRWYDD I YMARFER

135Dileu o’r gofrestr ar sail gydsyniol

(1)

Mae is-adran (2) yn gymwys—

(a)

pan fo person cofrestredig wedi gwneud cais o dan adran 92 i’r cofnod sy’n ymwneud â’r person hwnnw gael ei ddileu o’r gofrestr drwy gytundeb, a

(b)

pan fo’r cais hwnnw wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer yn rhinwedd rheolau a wneir o dan adran 92(3).

(2)

Ni chaiff y panel addasrwydd i ymarfer wneud gorchymyn i’r cofnod sy’n ymwneud â’r person cofrestredig gael ei ddileu o’r gofrestr drwy gytundeb ond os yw’r person wedi cytuno ar ddatganiad o ffeithiau sy’n ymwneud â’r mater y gwnaed yr atgyfeiriad a grybwyllir yn is-adran (1) mewn cysylltiad ag ef.

(3)

Os gwneir gorchymyn ar gyfer dileu drwy gytundeb, caiff GCC

(a)

cyhoeddi’r datganiad o ffeithiau y cytunir arnynt yn y modd sy’n briodol ym marn GCC, a

(b)

datgelu’r datganiad i unrhyw berson os yw GCC yn meddwl ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.