RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER

PENNOD 3GWAREDU ACHOSION ADDASRWYDD I YMARFER

134Cwmpas Pennod 3 a’i dehongli

(1)

Mae’r Bennod hon yn gymwys mewn cysylltiad â mater sydd wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer.

(2)

Ond nid yw’n gymwys mewn cysylltiad ag achosion adolygu o dan adran 151 (ac eithrio i’r graddau y caniateir i reolau gael eu gwneud o dan adran 136(4) neu 137(6) ynghylch ymgymeriadau y cytunir arnynt, a gadarnheir neu a amrywir, neu rybuddion a roddir, yn sgil adolygiad a gynhelir o dan adran 151).

(3)

Nid yw ychwaith yn gymwys mewn cysylltiad ag achosion gerbron panel addasrwydd i ymarfer, na’r rhan honno o achosion gerbron panel addasrwydd i ymarfer, pan fo’r panel hwnnw yn ystyried—

(a)

pa un ai i wneud gorchymyn interim o dan adran 144, neu

(b)

adolygu gorchymyn interim o dan adran 146.

(4)

Yn y Bennod hon, mae cyfeiriad at berson cofrestredig yn gyfeiriad at y person cofrestredig y mae’r atgyfeiriad i’r panel addasrwydd i ymarfer wedi ei wneud mewn cysylltiad ag ef.