RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER
PENNOD 2GWEITHDREFNAU RHAGARWEINIOL
Adolygu
133Atgyfeirio gan GCC ar gyfer achos adolygu
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn cael effaith mewn perthynas â pherson cofrestredig—
(a)
ymgymeriadau y cytunir arnynt rhwng y person a GCC o dan adran 126(3)(d);
(b)
ymgymeriadau y cytunir arnynt rhwng y person a phanel addasrwydd i ymarfer o dan adran 136(1), 152(5) neu (6), 153(4), 154(4) neu 155(7);
(c)
gorchymyn cofrestru amodol a wneir (neu a gadarnheir neu a amrywir) o dan adran 138(7), 152(8)(c), 153(6) neu (7), 154(8)(c) neu 155(10)(c);
(d)
gorchymyn atal dros dro a wneir (neu a gadarnheir neu a amrywir) o dan adran 138(8), 152(8)(d), 153(9)(c) neu 154(6) neu (7).
(2)
Os yw GCC yn meddwl ar unrhyw adeg ei bod yn ddymunol y dylai panel addasrwydd i ymarfer adolygu addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer, caiff GCC atgyfeirio’r achos i’r panel i gynnal adolygiad (gweler Pennod 5).
(3)
Ond rhaid i GCC atgyfeirio achos i banel addasrwydd i ymarfer i gynnal adolygiad o addasrwydd i ymarfer person cofrestredig os oes gan GCC reswm dros gredu—
(a)
pan fo’r person wedi cytuno ar ymgymeriad o’r math a grybwyllir yn is-adran (1)(a) neu (b), fod y person wedi torri’r ymgymeriad, neu
(b)
pan fo’r person yn ddarostyngedig i orchymyn cofrestru amodol o’r math a grybwyllir yn is-adran (1)(c), fod y person wedi torri unrhyw amod o’r gorchymyn.