RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER

PENNOD 2GWEITHDREFNAU RHAGARWEINIOL

Adolygu

131Adolygu penderfyniadau gan GCC

(1)

Rhaid i GCC adolygu penderfyniad y mae is-adran (2) yn gymwys iddo—

(a)

os yw’n meddwl y gall fod diffyg perthnasol ar y penderfyniad, neu

(b)

os yw’n meddwl y gall penderfyniad gwahanol fod wedi ei wneud ar sail gwybodaeth nad oedd ar gael pan wnaed y penderfyniad.

(2)

Mae’r is-adran hon yn gymwys i’r penderfyniadau a ganlyn—

(a)

penderfyniad i beidio ag atgyfeirio mater i banel addasrwydd i ymarfer o dan adran 121 neu 126(2),

(b)

penderfyniad i beidio ag atgyfeirio mater ar gyfer ymchwiliad o dan adran 125,

(c)

penderfyniad i waredu achos ar ôl ymchwiliad o dan adran 126(3), a

(d)

penderfyniad i atgyfeirio achos ar gyfer cyfryngu o dan reoliadau o dan adran 130.

(3)

Ni chaiff GCC adolygu penderfyniad ar ôl diwedd y cyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y gwnaed y penderfyniad oni bai bod GCC yn meddwl ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.

(4)

Pan fo GCC yn penderfynu adolygu penderfyniad, rhaid iddo roi hysbysiad i’r partïon a chanddynt fuddiant—

(a)

o’r penderfyniad i gynnal adolygiad, a

(b)

o’r rhesymau dros gynnal adolygiad.

(5)

Yn yr adran hon, ystyr “partïon a chanddynt fuddiant” yw—

(a)

y person cofrestredig y gwnaed y penderfyniad sy’n cael ei adolygu mewn cysylltiad ag ef,

(b)

y person (os oes un) a wnaeth honiad y gwnaed y penderfyniad mewn cysylltiad ag ef, ac

(c)

unrhyw berson arall y mae GCC yn meddwl bod ganddo fuddiant yn y penderfyniad.

(6)

Yn sgil adolygiad o dan yr adran hon, caiff GCC

(a)

rhoi yn lle’r penderfyniad sy’n cael ei adolygu benderfyniad arall o fath a allai fod wedi ei wneud gan y penderfynwr gwreiddiol,

(b)

atgyfeirio’r mater ar gyfer ymchwiliad o dan adran 125, neu

(c)

dyfarnu bod y penderfyniad yn sefyll.

(7)

Rhaid i GCC roi hysbysiad o ganlyniad yr adolygiad i’r partïon a chanddynt fuddiant.

(8)

Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y trefniadau ar gyfer cynnal adolygiad o dan yr adran hon.

(9)

Caiff rheolau a wneir o dan is-adran (8), yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)

y weithdrefn sydd i’w dilyn wrth gynnal adolygiad (gan gynnwys darpariaeth i’r partïon a chanddynt fuddiant gyflwyno sylwadau i GCC);

(b)

cynnwys ac amseriad hysbysiadau sydd i’w rhoi o dan yr adran hon.