RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER

PENNOD 2GWEITHDREFNAU RHAGARWEINIOL

Ymchwilio

130Cyfryngu

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu, neu awdurdodi GCC drwy reolau i ddarparu, ar gyfer trefniadau i gynnal cyfryngu gydag unrhyw berson cofrestredig yr atgyfeirir mater ar gyfer ymchwiliad mewn cysylltiad ag ef o dan adran 125.

(2)

Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth, neu awdurdodi GCC drwy reolau i wneud darpariaeth, ynghylch—

(a)

yr amgylchiadau pan ganiateir cynnal cyfryngu, a

(b)

y trefniadau ar gyfer cynnal cyfryngu.