Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

13Amrywio heb gaisLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)amrywio unrhyw amod a osodir o dan adran 7(3)(b), 12(2) neu baragraff (b) o’r is-adran hon, neu

(b)gosod amod pellach ar gofrestriad darparwr gwasanaeth.

F1(2). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(3)Os yw darparwr gwasanaeth yn darparu mwy nag un gwasanaeth rheoleiddiedig, caiff Gweinidogion Cymru amrywio cofrestriad y darparwr drwy ddileu gwasanaeth rheoleiddiedig—

(a)os ydynt wedi eu bodloni nad yw’r darparwr gwasanaeth bellach yn darparu’r gwasanaeth hwnnw, neu

(b)os ydynt wedi eu bodloni nad yw’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r gofynion a grybwyllir yn adran 7(1)(d) i’r graddau y bônt yn gymwys i’r gwasanaeth hwnnw.

(4)Os yw darparwr gwasanaeth yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig mewn mwy nag un man, o fwy nag un man neu mewn perthynas â mwy nag un man, caiff Gweinidogion Cymru amrywio cofrestriad y darparwr drwy ddileu man os ydynt wedi eu bodloni—

(a)nad yw’r darparwr gwasanaeth bellach yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig yn y man hwnnw, ohono neu mewn perthynas ag ef,

(b)nad yw’r gwasanaeth a ddarperir yn y man hwnnw, ohono neu mewn perthynas ag ef yn cael ei ddarparu yn unol â’r gofynion a grybwyllir yn adran 7(1)(d) i’r graddau y bônt yn gymwys i’r gwasanaeth hwnnw, neu

[F2(ba)bod yr unigolyn cyfrifol sydd wedi ei ddynodi mewn cysylltiad â’r man hwnnw, neu unrhyw berson arall, wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol, neu wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd berthnasol, mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig a ddarperir gan y darparwr gwasanaeth yn y man hwnnw, ohono neu mewn perthynas ag ef,]

(c)nad oes unrhyw unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad â’r man hwnnw (a bod y terfyn amser a ragnodir o dan adran 11(2) wedi dod i ben).

[F3(4A)At ddibenion is-adran (4)(ba) mae trosedd berthnasol yn drosedd a restrir yn adran 15(2).]

(5)Ni chaniateir i amrywiad gael ei wneud o dan [F4yr adran hon—

(a)yn achos amrywiad o dan is-adran (1), (3)(a) neu (4)(a), oni bai bod gofynion adrannau 18 a 19 wedi eu bodloni;

(b)yn achos amrywiad o dan is-adran (3)(b), (4)(b), (ba) neu (c), oni bai bod gofynion adrannau 16 a 17 wedi eu bodloni.]

[F5(6)Ond nid oes dim byd yn is-adran (5) sy’n effeithio ar bŵer Gweinidogion Cymru i amrywio cofrestriad ar frys o dan adran 23.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 13 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(d)