RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 2COFRESTRU ETC. DARPARWYR GWASANAETHAU
Ymgeisio, amrywio a chanslo cofrestriad
13Amrywio heb gais
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru—
(a)
amrywio unrhyw amod a osodir o dan adran 7(3)(b), 12(2) neu baragraff (b) o’r is-adran hon, neu
(b)
gosod amod pellach ar gofrestriad darparwr gwasanaeth.
F1(2)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(3)
Os yw darparwr gwasanaeth yn darparu mwy nag un gwasanaeth rheoleiddiedig, caiff Gweinidogion Cymru amrywio cofrestriad y darparwr drwy ddileu gwasanaeth rheoleiddiedig—
(a)
os ydynt wedi eu bodloni nad yw’r darparwr gwasanaeth bellach yn darparu’r gwasanaeth hwnnw, F2...
(b)
os ydynt wedi eu bodloni nad yw’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r gofynion a grybwyllir yn adran 7(1)(d) i’r graddau y bônt yn gymwys i’r gwasanaeth hwnnw F3, neu
F4(c)
os ydynt wedi eu bodloni, pan fo’r gwasanaeth yn wasanaeth plant o dan gyfyngiad, nad yw’r darparwr gwasanaeth yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1).
F5(3A)
Gweler hefyd baragraff 3(4)(a) o Atodlen 1A, mewn cysylltiad ag amrywio cofrestriad darparwr gwasanaeth i ddileu gwasanaeth plant o dan gyfyngiad yn ystod y cyfnod trosiannol a ddiffinnir yn yr Atodlen honno.
(4)
Os yw darparwr gwasanaeth yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig mewn mwy nag un man, o fwy nag un man neu mewn perthynas â mwy nag un man, caiff Gweinidogion Cymru amrywio cofrestriad y darparwr drwy ddileu man os ydynt wedi eu bodloni—
(a)
nad yw’r darparwr gwasanaeth bellach yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig yn y man hwnnw, ohono neu mewn perthynas ag ef,
(b)
nad yw’r gwasanaeth a ddarperir yn y man hwnnw, ohono neu mewn perthynas ag ef yn cael ei ddarparu yn unol â’r gofynion a grybwyllir yn adran 7(1)(d) i’r graddau y bônt yn gymwys i’r gwasanaeth hwnnw, neu
F6(ba)
bod yr unigolyn cyfrifol sydd wedi ei ddynodi mewn cysylltiad â’r man hwnnw, neu unrhyw berson arall, wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol, neu wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd berthnasol, mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig a ddarperir gan y darparwr gwasanaeth yn y man hwnnw, ohono neu mewn perthynas ag ef,
(c)
nad oes unrhyw unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad â’r man hwnnw (a bod y terfyn amser a ragnodir o dan adran 11(2) wedi dod i ben).
F7(4A)
At ddibenion is-adran (4)(ba) mae trosedd berthnasol yn drosedd a restrir yn adran 15(2).
(5)
Ni chaniateir i amrywiad gael ei wneud o dan F8yr adran hon—
(a)
yn achos amrywiad o dan is-adran (1), (3)(a) neu (4)(a), oni bai bod gofynion adrannau 18 a 19 wedi eu bodloni;
(b)
yn achos amrywiad o dan is-adran (3)(b), (4)(b), (ba) neu (c), oni bai bod gofynion adrannau 16 a 17 wedi eu bodloni.
F9(6)
Ond nid oes dim byd yn is-adran (5) sy’n effeithio ar bŵer Gweinidogion Cymru i amrywio cofrestriad ar frys o dan adran 23.