Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

129YmgymeriadauLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch cytuno ar ymgymeriadau o dan adran 126(3)(d).

(2)Caiff y rheolau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y weithdrefn sydd i’w dilyn ar gyfer cytuno ar ymgymeriadau;

(b)y weithdrefn sydd i’w dilyn os caiff ymgymeriad ei dorri;

(c)canlyniadau torri ymgymeriad;

(d)adolygiad cyfnodol o ofyniad i gydymffurfio ag ymgymeriad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 129 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 129 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)