xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Pan fo GCC yn bwriadu dyroddi rhybudd i berson cofrestredig, rhaid i GCC—
(a)hysbysu’r person cofrestredig am ei fwriad, a
(b)hysbysu’r person hwnnw am yr hawl i ofyn am wrandawiad llafar at ddiben dyfarnu pa un ai i roi rhybudd ai peidio.
(2)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch—
(a)y cyfnod y caniateir i gais am wrandawiad llafar gael ei wneud ynddo;
(b)y trefniadau a’r weithdrefn ar gyfer gwrandawiad llafar.
(3)Rhaid i GCC ganiatáu cais am wrandawiad llafar os gwneir y cais yn unol â gofynion rheolau a wneir o dan is-adran (2).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 128 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 128 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)