RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER

PENNOD 2GWEITHDREFNAU RHAGARWEINIOL

Ymchwilio

128Rhybuddion

(1)

Pan fo GCC yn bwriadu dyroddi rhybudd i berson cofrestredig, rhaid i GCC

(a)

hysbysu’r person cofrestredig am ei fwriad, a

(b)

hysbysu’r person hwnnw am yr hawl i ofyn am wrandawiad llafar at ddiben dyfarnu pa un ai i roi rhybudd ai peidio.

(2)

Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)

y cyfnod y caniateir i gais am wrandawiad llafar gael ei wneud ynddo;

(b)

y trefniadau a’r weithdrefn ar gyfer gwrandawiad llafar.

(3)

Rhaid i GCC ganiatáu cais am wrandawiad llafar os gwneir y cais yn unol â gofynion rheolau a wneir o dan is-adran (2).