RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER
PENNOD 2GWEITHDREFNAU RHAGARWEINIOL
Ymchwilio
I1I2127Hysbysiad: atgyfeirio neu waredu
1
Rhaid i GCC roi hysbysiad i’r personau a restrir yn is-adran (2)—
a
bod mater wedi ei atgyfeirio i banel gorchmynion interim o dan adran 125(2);
b
bod mater wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer o dan adran 126(2);
c
o’r ffordd y mae’r mater wedi ei waredu o dan adran 126(3).
2
Y personau yw—
a
y person cofrestredig y mae’r mater yn ymwneud ag ef, a
b
pan fo’r mater yn destun honiad a grybwyllir yn adran 118(1)(a), y person a wnaeth yr honiad.
3
Caiff GCC roi hysbysiad i unrhyw berson arall o’r atgyfeiriad neu’r gwarediad o fater o dan adran 126 os yw wedi ei fodloni ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.
4
Rhaid i hysbysiad o dan yr adran hon roi’r rhesymau dros yr atgyfeiriad.