RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER
PENNOD 2GWEITHDREFNAU RHAGARWEINIOL
Ymchwilio
126Pwerau yn dilyn ymchwiliad
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r ymchwiliad i fater sy’n ymwneud ag addasrwydd person cofrestredig i ymarfer wedi dod i ben.
(2)
Rhaid i GCC atgyfeirio’r mater i banel addasrwydd i ymarfer os yw wedi ei fodloni—
(a)
bod rhagolwg realistig i’r panel ddod i’r casgliad bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer, a
(b)
ei bod er budd y cyhoedd i atgyfeirio’r mater.
(3)
Pan na fo’r mater yn cael ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer, caiff GCC—
(a)
penderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn cysylltiad â’r person cofrestredig;
(b)
rhoi cyngor i’r person cofrestredig, neu i unrhyw berson arall sy’n ymwneud â’r ymchwiliad, mewn cysylltiad ag unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’r ymchwiliad;
(c)
dyroddi rhybudd i’r person cofrestredig mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol;
(d)
cytuno â’r person cofrestredig y bydd yn cydymffurfio ag unrhyw ymgymeriadau sy’n briodol ym marn GCC;
(e)
caniatáu cais o dan adran 92 gan y person cofrestredig i’w gofnod yn y gofrestr gael ei ddileu drwy gytundeb.