RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER
PENNOD 2GWEITHDREFNAU RHAGARWEINIOL
Ymchwilio
125Dyletswydd i ymchwilio
(1)
Rhaid i GCC ymchwilio, neu wneud trefniadau ar gyfer ymchwilio, i fater a atgyfeirir o dan adran 119 mewn cysylltiad ag addasrwydd person cofrestredig i ymarfer.
(2)
Caiff y person sy’n cynnal ymchwiliad o dan yr adran hon atgyfeirio’r mater i banel gorchmynion interim ar unrhyw adeg yn ystod yr ymchwiliad.
(3)
Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y trefniadau ar gyfer ymchwiliadau o dan yr adran hon.
(4)
Caiff rheolau a wneir o dan is-adran (3), yn benodol, wneud darpariaeth—
(a)
i’r person cofrestredig gyflwyno sylwadau i’r person sy’n cynnal yr ymchwiliad;
(b)
i aelod o staff GCC gynnal ymchwiliadau;
(c)
ar gyfer penodi un neu ragor o unigolion at ddiben cynnal ymchwiliad;
(d)
ar gyfer penodi personau i roi cynhorthwy mewn perthynas ag ymchwiliad.
(5)
Ond ni chaiff rheolau a wneir o dan is-adran (3) ddarparu i’r canlynol gynnal ymchwiliad—
(a)
person sy’n aelod o—
(i)
GCC,
(ii)
F1Gwaith Cymdeithasol Lloegr ,
(iii)
Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban, neu
(iv)
Cyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon;
(b)
person sy’n aelod o banel addasrwydd i ymarfer;
(c)
person sy’n aelod o banel gorchmynion interim;
(d)
person rhagnodedig.