RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER
PENNOD 2GWEITHDREFNAU RHAGARWEINIOL
Ystyriaeth ragarweiniol i honiadau etc.
124Hysbysiad: atgyfeirio i banel gorchmynion interim
Pan fo person yn atgyfeirio mater i banel gorchmynion interim o dan adran 118(2)(b) neu 119(2), o ran GCC—
(a)
rhaid iddo roi hysbysiad o’r atgyfeirio—
(i)
i’r person cofrestredig y mae’r mater yn ymwneud ag ef, a
(ii)
pan fo’r mater yn destun honiad a grybwyllir yn adran 118(1)(a), i’r person a wnaeth yr honiad, a
(b)
caiff roi hysbysiad o’r atgyfeirio i unrhyw berson arall os yw GCC yn meddwl ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.