xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae’r adran hon yn gymwys, ar ôl i ystyriaeth ragarweiniol o dan adran 119 ddod i ben, pan fo mater yn cael ei atgyfeirio—
(a)i banel addasrwydd i ymarfer o dan adran 121, neu
(b)ar gyfer ymchwiliad o dan adran 125.
(2)Rhaid i GCC roi hysbysiad—
(a)i’r person cofrestredig y mae’r mater yn ymwneud ag ef;
(b)pan fo’r mater yn destun honiad a grybwyllir yn adran 118(1)(a), i’r person a wnaeth yr honiad;
(c)i bob person y cyflogir y person cofrestredig fel gweithiwr gofal cymdeithasol ganddo, hyd y gŵyr GCC;
(d)i bob person sydd, hyd y gŵyr GCC, â threfniant â’r person cofrestredig i’r person cofrestredig ddarparu gwasanaethau i drydydd parti yn rhinwedd ei swydd fel gweithiwr gofal cymdeithasol;
(e)i unrhyw bersonau eraill a ragnodir.
(3)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch rhoi hysbysiad o dan is-adran (2).
(4)Caiff y rheolau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—
(a)cynnwys hysbysiad;
(b)y weithdrefn ar gyfer rhoi hysbysiad;
(c)y cyfnod y mae rhaid rhoi hysbysiad ynddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 123 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 123 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)