RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER

PENNOD 2GWEITHDREFNAU RHAGARWEINIOL

Ystyriaeth ragarweiniol i honiadau etc.

123Hysbysiad: atgyfeirio ymlaen

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys, ar ôl i ystyriaeth ragarweiniol o dan adran 119 ddod i ben, pan fo mater yn cael ei atgyfeirio—

(a)

i banel addasrwydd i ymarfer o dan adran 121, neu

(b)

ar gyfer ymchwiliad o dan adran 125.

(2)

Rhaid i GCC roi hysbysiad—

(a)

i’r person cofrestredig y mae’r mater yn ymwneud ag ef;

(b)

pan fo’r mater yn destun honiad a grybwyllir yn adran 118(1)(a), i’r person a wnaeth yr honiad;

(c)

i bob person y cyflogir y person cofrestredig fel gweithiwr gofal cymdeithasol ganddo, hyd y gŵyr GCC;

(d)

i bob person sydd, hyd y gŵyr GCC, â threfniant â’r person cofrestredig i’r person cofrestredig ddarparu gwasanaethau i drydydd parti yn rhinwedd ei swydd fel gweithiwr gofal cymdeithasol;

(e)

i unrhyw bersonau eraill a ragnodir.

(3)

Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch rhoi hysbysiad o dan is-adran (2).

(4)

Caiff y rheolau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)

cynnwys hysbysiad;

(b)

y weithdrefn ar gyfer rhoi hysbysiad;

(c)

y cyfnod y mae rhaid rhoi hysbysiad ynddo.