RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER
PENNOD 2GWEITHDREFNAU RHAGARWEINIOL
Ystyriaeth ragarweiniol i honiadau etc.
122Hysbysiad: anghymhwystra ar gyfer atgyfeirio ymlaen
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person sy’n rhoi ystyriaeth ragarweiniol i fater yn dyfarnu nad yw’r mater yn gymwys i’w atgyfeirio ymlaen o dan adran 120(1).
(2)
Rhaid i GCC roi hysbysiad o’r dyfarniad i’r personau perthnasol, oni bai bod GCC yn meddwl nad yw er budd y cyhoedd i wneud hynny.
(3)
At ddibenion is-adran (2) “y personau perthnasol” yw—
(a)
y person cofrestredig y mae’r mater yn ymwneud ag ef, a
(b)
pan fo’r mater yn destun honiad a grybwyllir yn adran 118(1)(a), y person a wnaeth yr honiad.
(4)
Caiff GCC roi hysbysiad i unrhyw berson arall nad yw mater yn gymwys i’w atgyfeirio ymlaen pan fo wedi ei fodloni ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.
(5)
Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch—
(a)
cynnwys hysbysiad o dan yr adran hon, a
(b)
y weithdrefn ar gyfer rhoi hysbysiad.