RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER
PENNOD 2GWEITHDREFNAU RHAGARWEINIOL
Ystyriaeth ragarweiniol i honiadau etc.
121Atgyfeirio’n uniongyrchol i banel addasrwydd i ymarfer
Rhaid i berson sy’n rhoi ystyriaeth ragarweiniol i fater ei atgyfeirio’n uniongyrchol i banel addasrwydd i ymarfer—
(a)
os yw’r mater yn ymwneud â chollfarn person cofrestredig am drosedd berthnasol (gweler adran 120(5)), a
(b)
o dan unrhyw amgylchiadau eraill a bennir gan GCC mewn rheolau.