RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 2COFRESTRU ETC. DARPARWYR GWASANAETHAU

Ymgeisio, amrywio a chanslo cofrestriad

12Caniatáu neu wrthod cais am amrywiad

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu neu wrthod cais o dan adran 11 (ond gweler F1is-adrannau (1A) a (2)).

F2(1A)

Yn achos cais o dan adran 11(1)(a)(i) i ddarparu gwasanaeth plant o dan gyfyngiad, ni chaiff Gweinidogion Cymru ond caniatáu cais os ydynt wedi eu bodloni bod y darparwr gwasanaeth yn bodloni’r gofyniad yn adran 6A(1).

(2)

Yn achos cais o dan adran 11(1)(b), caiff Gweinidogion Cymru (yn lle caniatáu neu wrthod y cais)—

(a)

amrywio amod ar delerau gwahanol i’r rhai a bennir yn y cais, neu

(b)

gosod amod arall ar gofrestriad y darparwr (pa un ai yn lle’r amod y gwnaeth y darparwr gais i’w amrywio neu ei ddileu neu’n ychwanegol at yr amod hwnnw).

(3)

Ond dim ond os yw gofynion adrannau 18 i 20 wedi eu bodloni (i’r graddau y bônt yn gymwys) y mae amrywiad o dan yr adran hon yn cymryd effaith.