RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER
PENNOD 2GWEITHDREFNAU RHAGARWEINIOL
Ystyriaeth ragarweiniol i honiadau etc.
118Atgyfeirio honiadau etc. o amhariad ar addasrwydd i ymarfer
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)
pan fo honiad yn cael ei wneud i GCC bod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer, neu
(b)
pan fo gan GCC reswm fel arall dros gredu y gall fod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer.
(2)
O ran GCC—
(a)
rhaid iddo atgyfeirio am ystyriaeth ragarweiniol y mater sy’n destun yr honiad neu ei reswm dros gredu y gall fod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer, a
(b)
caiff atgyfeirio’r mater i banel gorchmynion interim (gweler Pennod 4).