RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER
PENNOD 1SEILIAU AMHARIAD
117Addasrwydd i ymarfer
(1)
Dim ond am un neu ragor o’r seiliau a ganlyn y caniateir ystyried bod amhariad ar addasrwydd person i ymarfer at ddibenion y Rhan hon a Rhan 4—
(a)
perfformiad diffygiol fel gweithiwr gofal cymdeithasol;
(b)
camymddwyn difrifol (pa un ai fel gweithiwr gofal cymdeithasol neu fel arall);
(c)
cynnwys y person ar restr wahardd;
(d)
dyfarniad gan gorff perthnasol i’r perwyl bod amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer;
(e)
iechyd corfforol neu iechyd meddwl andwyol;
(f)
collfarn neu rybuddiad yn y Deyrnas Unedig am drosedd, neu gollfarn neu rybuddiad yn rhywle arall am dramgwydd a fyddai’n drosedd pe bai wedi ei gyflawni yng Nghymru a Lloegr.
(2)
At ddibenion is-adran (1)(a) caiff “perfformiad diffygiol fel gweithiwr gofal cymdeithasol” gynnwys—
(a)
achos o esgeuluster,
(b)
torri ymgymeriad y cytunir arno â GCC o dan y Ddeddf hon, ac
(c)
torri ymgymeriad y cytunir arno â phanel addasrwydd i ymarfer o dan y Ddeddf hon.
(3)
Yn is-adran (1)(c) ystyr “rhestr wahardd” yw—
(a)
rhestr a gynhelir o dan adran 2 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47);
(b)
rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Grwpiau Hyglwyf (Yr Alban) 2007 (dsa 14);
(c)
rhestr a gynhelir o dan erthygl 6 o Orchymyn Diogelu Grwpiau Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 2007 (O.S. 2007/1351).
(4)
Yn is-adran (1)(d) ystyr “corff perthnasol” yw—
(a)
y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal F1neu Waith Cymdeithasol Lloegr ;
(b)
y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth;
(c)
Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban;
(d)
Cyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon;
(e)
corff y tu allan i’r Deyrnas Unedig sy’n gyfrifol am reoleiddio gweithgareddau a fyddai, yng Nghymru, yn cael eu rheoleiddio gan GCC;
(f)
corff rhagnodedig.
(5)
Caniateir ystyried bod amhariad ar addasrwydd person i ymarfer oherwydd materion sy’n codi neu ddigwyddiadau sy’n digwydd—
(a)
pa un ai y tu mewn neu y tu allan i Gymru;
(b)
pa un a oedd y person wedi ei gofrestru ar y gofrestr ar y pryd ai peidio;
(c)
pa un ai cyn neu ar ôl i’r adran hon ddod i rym.
(6)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (1) at ddiben ychwanegu, addasu neu ddileu sail amhariad.