RHAN 5GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: SAFONAU YMDDYGIAD, ADDYSG ETC.

116Swyddogaethau eraill GCC mewn cysylltiad ag addysg a hyfforddiant

(1)

Os ymddengys i GCC nad oes darpariaeth ddigonol yn cael ei gwneud ar gyfer hyfforddi personau sy’n weithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad neu sy’n dymuno bod yn weithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad, caiff GCC ddarparu cyrsiau at y diben hwnnw neu sicrhau bod cyrsiau o’r fath yn cael eu darparu.

(2)

Caiff GCC hefyd, ar unrhyw delerau ac yn ddarostyngedig i unrhyw amodau sy’n briodol yn ei farn ef—

(a)

gwneud grantiau, a thalu lwfansau teithio a lwfansau eraill, i bersonau sy’n preswylio yng Nghymru er mwyn sicrhau eu hyfforddiant yng ngwaith gweithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad;

(b)

gwneud grantiau i sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant yng ngwaith gweithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad.