RHAN 5GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: SAFONAU YMDDYGIAD, ADDYSG ETC.

115Arolygiadau mewn cysylltiad â chyrsiau penodol

(1)

Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ar gyfer arolygu mannau lle y gwneir y canlynol neu ar gyfer arolygu sefydliadau y gwneir y canlynol ganddynt neu o dan eu cyfarwyddyd—

(a)

y rhoddir, neu y bwriedir rhoi, unrhyw gwrs perthnasol (neu ran o gwrs o’r fath), neu

(b)

y cynhelir unrhyw archwiliad, neu y bwriedir cynnal unrhyw archwiliad, mewn cysylltiad ag unrhyw gwrs perthnasol.

(2)

Caiff y rheolau wneud darpariaeth—

(a)

ar gyfer penodi personau i gynnal arolygiadau (“arolygwyr”);

(b)

i adroddiadau gael eu gwneud gan arolygwyr—

(i)

ar natur ac ansawdd y cyfarwyddyd a roddir, neu sydd i’w roi, a’r cyfleusterau a ddarperir, neu sydd i’w darparu, yn y man neu gan y sefydliad yr ymwelir ag ef;

(ii)

ar unrhyw faterion eraill a bennir yn y rheolau;

(c)

i GCC dalu ffioedd, lwfansau a threuliau i bersonau a benodir yn arolygwyr;

(d)

i bersonau o’r fath gael eu trin, at ddibenion Atodlen 2, fel aelodau o staff GCC.

(3)

Yn is-adran (1) ystyr “cwrs perthnasol”, mewn perthynas â GCC, yw—

(a)

unrhyw gwrs y rhoddwyd cymeradwyaeth ar ei gyfer gan GCC, neu y ceisir cymeradwyaeth o’r fath, o dan adran 114, neu

(b)

unrhyw hyfforddiant y caiff fod yn ofynnol, yn rhinwedd rheolau a wneir o dan adran 113(1), i berson sydd wedi ei dderbyn i ran o’r gofrestr ei gwblhau ar ôl cofrestru.