RHAN 5GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: SAFONAU YMDDYGIAD, ADDYSG ETC.

114Cymeradwyo cyrsiau etc.

(1)

Caiff GCC, yn unol â rheolau a wneir ganddo—

(a)

cymeradwyo cyrsiau mewn gwaith cymdeithasol perthnasol ar gyfer personau sydd wedi eu cofrestru neu sy’n dymuno cofrestru yn y rhan gweithwyr cymdeithasol o’r gofrestr;

(b)

cymeradwyo cyrsiau yn y gwaith a gaiff ei ymarfer gan bersonau sydd wedi eu cofrestru mewn rhan ychwanegol o’r gofrestr ar gyfer personau sydd wedi eu cofrestru neu sy’n dymuno cofrestru yn y rhan honno o’r gofrestr;

(c)

cymeradwyo cyrsiau yn y gwaith a gaiff ei ymarfer gan bersonau sy’n weithwyr gofal cymdeithasol neu sy’n dymuno bod yn weithwyr gofal cymdeithasol o ddisgrifiad nad yw wedi ei bennu yn adran 80(1) neu odani.

(2)

Caiff cymeradwyaeth a roddir o dan yr adran hon fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau sy’n briodol ym marn GCC.

(3)

Caiff rheolau a wneir yn rhinwedd yr adran hon, yn benodol, wneud darpariaeth—

(a)

ynghylch cynnwys cyrsiau a’r dulliau ar gyfer cwblhau cyrsiau;

(b)

o ran y ddarpariaeth o wybodaeth am gyrsiau i GCC;

(c)

o ran y personau a gaiff ymgymryd â chyrsiau, neu rannau o gyrsiau a bennir yn y rheolau;

(d)

o ran niferoedd y personau a gaiff ymgymryd â chyrsiau;

(e)

o ran dyfarnu tystysgrifau gan GCC o gwblhau cyrsiau yn llwyddiannus;

(f)

ynghylch darfodiad ac adnewyddiad cymeradwyaethau;

(g)

ynghylch tynnu cymeradwyaethau yn ôl.

(4)

Caiff GCC

(a)

cynnal, neu wneud trefniadau ar gyfer cynnal, archwiliadau mewn cysylltiad â chyrsiau a grybwyllir yn yr adran hon neu yn adran 116;

(b)

gwneud gwaith ymchwil, neu helpu personau eraill i wneud gwaith ymchwil, i faterion sy’n berthnasol i hyfforddiant ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad.

(5)

Ni chaniateir i gwrs gael ei gymeradwyo gan GCC o dan yr adran hon oni bai bod GCC yn meddwl y bydd y cwrs yn galluogi personau sy’n ei gwblhau i gyrraedd y safon ofynnol o hyfedredd yng ngwaith gofal cymdeithasol.

(6)

Yn is-adran (5) ystyr “y safon ofynnol o hyfedredd yng ngwaith gofal cymdeithasol” yw’r safon a ddisgrifir mewn rheolau a wneir gan GCC.

(7)

Rhaid i GCC gynnal a chyhoeddi rhestr o’r cyrsiau y mae wedi eu cymeradwyo o dan yr adran hon.