113Datblygiad proffesiynol parhausLL+C
(1)Caiff GCC wneud rheolau sy’n ei gwneud yn ofynnol i bersonau sydd wedi eu cofrestru mewn unrhyw ran o’r gofrestr gyflawni hyfforddiant pellach.
(2)Caiff y rheolau, yn benodol, wneud darpariaeth mewn cysylltiad â phersonau sy’n methu â chydymffurfio ag unrhyw ofynion mewn rheolau a wneir gan GCC o dan is-adran (1), gan gynnwys darpariaeth ar gyfer atgyfeiriadau i banel addasrwydd i ymarfer.
(3)Mae is-adran (1), i’r graddau y mae’n ymwneud â pherson (“P”) sydd wedi ei gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol yn y rhan [F1gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad o'r gofrestr yn unig, neu fel rheolwr gofal cymdeithasol yn y rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad o'r gofrestr yn unig,] yn cael effaith yn ddarostyngedig i is-adran (4).
(4)O ran rheolau a wneir o dan is-adran (1)—
(a)ni chaniateir iddynt osod gofynion ar P os yw’n ofynnol i P gyflawni hyfforddiant pellach, yng Ngwladwriaeth gartref P, mewn perthynas â phroffesiwn gweithiwr cymdeithasol [F2neu reolwr gofal cymdeithasol] , ond
(b)pan fônt yn gosod gofynion ar P—
(i)rhaid iddynt ystyried y ffaith bod P yn weithiwr cymdeithasol [F2neu'n rheolwr gofal cymdeithasol] cwbl gymwysedig yng Ngwladwriaeth gartref P, a
(ii)rhaid iddynt bennu y caniateir i’r hyfforddiant y mae’n ofynnol i P ei gyflawni gael ei gyflawni y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
(5)Yn is-adran (4) ystyr “Gwladwriaeth gartref”, mewn perthynas â P, yw’r Wladwriaeth Ewropeaidd berthnasol lle y mae P wedi ei sefydlu’n gyfreithlon fel gweithiwr cymdeithasol [F3neu reolwr gofal cymdeithasol ] .
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 113(3) wedi eu hamnewid (3.4.2017) gan The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 141(2) (ynghyd â rhl. 155)
F2Geiriau yn a. 113(4) wedi eu mewnosod (3.4.2017) gan The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 141(3) (ynghyd â rhl. 155)
F3Geiriau yn a. 113(5) wedi eu mewnosod (3.4.2017) gan The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 141(4) (ynghyd â rhl. 155)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 113 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 113 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(d) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)