RHAN 5GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: SAFONAU YMDDYGIAD, ADDYSG ETC.

113Datblygiad proffesiynol parhaus

(1)

Caiff GCC wneud rheolau sy’n ei gwneud yn ofynnol i bersonau sydd wedi eu cofrestru mewn unrhyw ran o’r gofrestr gyflawni hyfforddiant pellach.

(2)

Caiff y rheolau, yn benodol, wneud darpariaeth mewn cysylltiad â phersonau sy’n methu â chydymffurfio ag unrhyw ofynion mewn rheolau a wneir gan GCC o dan is-adran (1), gan gynnwys darpariaeth ar gyfer atgyfeiriadau i banel addasrwydd i ymarfer.

(3)

Mae is-adran (1), i’r graddau y mae’n ymwneud â pherson (“P”) sydd wedi ei gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol yn y rhan F1gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad o'r gofrestr yn unig, neu fel rheolwr gofal cymdeithasol yn y rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad o'r gofrestr yn unig, yn cael effaith yn ddarostyngedig i is-adran (4).

(4)

O ran rheolau a wneir o dan is-adran (1)—

(a)

ni chaniateir iddynt osod gofynion ar P os yw’n ofynnol i P gyflawni hyfforddiant pellach, yng Ngwladwriaeth gartref P, mewn perthynas â phroffesiwn gweithiwr cymdeithasol F2neu reolwr gofal cymdeithasol , ond

(b)

pan fônt yn gosod gofynion ar P—

(i)

rhaid iddynt ystyried y ffaith bod P yn weithiwr cymdeithasol F2neu'n rheolwr gofal cymdeithasol cwbl gymwysedig yng Ngwladwriaeth gartref P, a

(ii)

rhaid iddynt bennu y caniateir i’r hyfforddiant y mae’n ofynnol i P ei gyflawni gael ei gyflawni y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

(5)

Yn is-adran (4) ystyr “Gwladwriaeth gartref”, mewn perthynas â P, yw’r Wladwriaeth Ewropeaidd berthnasol lle y mae P wedi ei sefydlu’n gyfreithlon fel gweithiwr cymdeithasol F3neu reolwr gofal cymdeithasol .