RHAN 5GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: SAFONAU YMDDYGIAD, ADDYSG ETC.
112Codau ymarfer
(1)
Rhaid i GCC lunio, a chyhoeddi o dro i dro, godau ymarfer sy’n pennu—
(a)
safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir oddi wrth weithwyr gofal cymdeithasol;
(b)
safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir oddi wrth bersonau sy’n cyflogi neu sy’n ceisio cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol.
(2)
Caiff y codau wneud darpariaeth wahanol mewn cysylltiad â chategorïau gwahanol o weithiwr gofal cymdeithasol.
(3)
Caiff y codau hefyd bennu’r safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir oddi wrth weithwyr cymdeithasol wrth gyflawni swyddogaethau gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl a gymeradwywyd (o fewn ystyr “approved mental health professional” yn adran 114 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (p.20)).
(4)
Rhaid i GCC—
(a)
cadw’r codau o dan adolygiad, a
(b)
amrywio eu darpariaethau pa bryd bynnag y mae’n meddwl ei bod yn briodol gwneud hynny.
(5)
Pan honnir bod person sydd wedi ei gofrestru mewn unrhyw ran o’r gofrestr wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw safon sydd wedi ei chynnwys mewn cod a wneir o dan yr adran hon—
(a)
nid yw’r methiant hwnnw, ynddo’i hun, i’w gymryd fel pe bai’n berfformiad diffygiol fel gweithiwr gofal cymdeithasol neu gamymddwyn difrifol at ddibenion adran 117 (addasrwydd i ymarfer), ond
(b)
caniateir i’r methiant hwnnw gael ei ystyried mewn achosion o dan y Ddeddf hon sy’n ymwneud ag addasrwydd y person i ymarfer.
(6)
Rhaid i awdurdod lleol sy’n gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch ymddygiad unrhyw weithwyr gofal cymdeithasol y mae’n eu cyflogi, os y’i cyfarwyddir gan Weinidogion Cymru i wneud hynny, ystyried unrhyw god a gyhoeddir gan GCC o dan yr adran hon.