RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 2COFRESTRU ETC. DARPARWYR GWASANAETHAU

Ymgeisio, amrywio a chanslo cofrestriad

11Cais i amrywio cofrestriad fel darparwr gwasanaeth

(1)

Rhaid i ddarparwr gwasanaeth wneud cais i Weinidogion Cymru ar gyfer amrywio cofrestriad y darparwr—

(a)

os yw’r darparwr yn dymuno—

(i)

darparu gwasanaeth rheoleiddiedig nad yw’r darparwr eisoes wedi ei gofrestru i’w ddarparu,

(ii)

darparu gwasanaeth rheoleiddiedig mewn man, o fan neu mewn perthynas â man nad yw eisoes wedi ei bennu yng nghofrestriad y darparwr mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw,

(iii)

peidio â darparu gwasanaeth rheoleiddiedig, neu

(iv)

peidio â darparu gwasanaeth rheoleiddiedig mewn man, o fan neu mewn perthynas â man;

(b)

os yw’r darparwr yn dymuno i amod a osodir o dan adran 7(3)(b), 12(2) neu 13(1) gael ei amrywio neu ei ddileu;

(c)

os yw’r darparwr yn dymuno dynodi unigolyn cyfrifol gwahanol mewn cysylltiad â man neu y mae’n ofynnol iddo ddynodi unigolyn cyfrifol oherwydd nad oes unigolyn o’r fath wedi ei ddynodi mewn cysylltiad â man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef.

(2)

Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau ragnodi terfyn amser y mae rhaid cyflwyno cais i amrywio cofrestriad darparwr ynddo o dan amgylchiadau pan na fo unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad â man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef.

(3)

Rhaid i gais o dan is-adran (1)—

(a)

cynnwys—

(i)

manylion yr amrywiad y mae’r darparwr yn gofyn amdano,

(ii)

yn achos cais o dan is-adran (1)(a)(i) i ddarparu gwasanaeth cymorth cartref, yr ymgymeriad yn adran 8, a

(iii)

unrhyw wybodaeth arall a ragnodir;

(b)

bod ar y ffurf ragnodedig.