Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Valid from 03/04/2017

109Cyhoeddi penderfyniadau penodol panel apelau cofrestruLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i GCC gyhoeddi’r penderfyniadau a ganlyn—

(a)penderfyniad panel apelau cofrestru o dan adran 98(1)(b) i beidio ag adfer person i’r gofrestr;

(b)penderfyniad panel apelau cofrestru o dan adran 98(4) na chaiff person wneud ceisiadau pellach i adfer i’r gofrestr.

(2)Ond ni chaniateir i GCC gyhoeddi unrhyw wybodaeth am iechyd corfforol neu iechyd meddwl person.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 109 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)