RHAN 4GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL
Hysbysu’r cofrestrydd am newidiadau i wybodaeth etc.
I1I2106Dyletswydd i hysbysu’r cofrestrydd am newidiadau i wybodaeth gofrestru
1
Rhaid i GCC drwy reolau ei gwneud yn ofynnol i berson sydd wedi ei gofrestru mewn rhan o’r gofrestr roi hysbysiad i’r cofrestrydd o newidiadau i’r wybodaeth a gofnodir yn y gofrestr mewn cysylltiad â’r person hwnnw.
2
Caiff rheolau o dan is-adran (1), yn benodol, gynnwys darpariaeth ynghylch—
a
y newidiadau i roi hysbysiad yn eu cylch,
b
ym mha fodd y mae rhaid rhoi hysbysiad a’r cyfnod ar gyfer gwneud hynny, ac
c
canlyniadau methu â chydymffurfio ag unrhyw ofynion sydd wedi eu cynnwys yn y rheolau (a gaiff gynnwys atgyfeirio’r mater i banel addasrwydd i ymarfer).