xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CGWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL

Hysbysu’r cofrestrydd am newidiadau i wybodaeth etc.LL+C

106Dyletswydd i hysbysu’r cofrestrydd am newidiadau i wybodaeth gofrestruLL+C

(1)Rhaid i GCC drwy reolau ei gwneud yn ofynnol i berson sydd wedi ei gofrestru mewn rhan o’r gofrestr roi hysbysiad i’r cofrestrydd o newidiadau i’r wybodaeth a gofnodir yn y gofrestr mewn cysylltiad â’r person hwnnw.

(2)Caiff rheolau o dan is-adran (1), yn benodol, gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)y newidiadau i roi hysbysiad yn eu cylch,

(b)ym mha fodd y mae rhaid rhoi hysbysiad a’r cyfnod ar gyfer gwneud hynny, ac

(c)canlyniadau methu â chydymffurfio ag unrhyw ofynion sydd wedi eu cynnwys yn y rheolau (a gaiff gynnwys atgyfeirio’r mater i banel addasrwydd i ymarfer).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 106 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 106 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)