RHAN 4GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL

Apelau i’r tribiwnlys

105Apelau eraill: penderfyniadau a wneir o dan y Rheoliadau Systemau Cyffredinol

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo GCC wedi gwneud penderfyniad—

a

o dan reoliad 9(2) o’r Rheoliadau Systemau Cyffredinol o ran a yw person yn darparu gwasanaethau fel gweithiwr cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol, neu

b

o dan Ran 3 o’r Rheoliadau hynny mewn cysylltiad â phrawf tueddfryd, neu gyfnod addasu, mewn cysylltiad â pherson yn cael caniatâd, yn rhinwedd y Rhan honno, i gael mynediad at broffesiwn gweithiwr cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig ac i ddilyn y proffesiwn hwnnw.

2

Caiff y person y mae’r penderfyniad yn ymwneud ag ef apelio i’r tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad.

3

Rhaid i apêl o dan is-adran (2) gael ei dwyn cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad yr hysbyswyd y person gan GCC am y penderfyniad.

4

Ond caiff y tribiwnlys ganiatáu i apêl gael ei gwneud iddo ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (3) os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros fethu ag apelio cyn diwedd y cyfnod (a thros unrhyw oedi o ran gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol).

5

Ar apêl o dan yr adran hon, caiff y tribiwnlys—

a

cadarnhau’r penderfyniad,

b

rhoi penderfyniad arall y gallai GCC fod wedi ei wneud yn lle’r penderfyniad y gwneir apêl yn ei erbyn, neu

c

anfon yr achos yn ôl i GCC i’w waredu yn unol â chyfarwyddydau’r tribiwnlys.